Frontpage Slideshow (version 2.0.0) - Copyright © 2006-2008 by JoomlaWorks
PTStudy12f
orderprospf
ucas2012f
opendays_all_11
Swansea School of Education
Programmes Offered
Train to Teach French in the UK
 
 
PGCE in Primary Education (Welsh Medium) PDF Print E-mail

Amlinelliad o'r rhaglen 

Mae'r rhaglenni TAR Cynradd wedi'u dylunio i baratoi myfyrwyr at yrfa mewn addysgu ar draws yr ystod oedran cynradd. Mae myfyrwyr yn ffocysu naill ai ar Gyfnod Allweddol 2 neu'r Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1.

Mae gan y rhaglen ddwy brif gydran sydd hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg:

*Profiad yn yr ysgol

*Astudiaethau ar y campws

Profiad Ysgol Gynradd 1

Hon yw cydran yn yr ysgol y cwrs Astudiaethau Addysgol a Phroffesiynol (AAP) a chaiff ei rheoli a'i haddysgu o dan gyfarwyddyd Uwch Fentor yr ysgol bartneriaeth.

Lleoliad Ysgol Asesedig 1

Bydd profiad addysgu tymor y Gwanwyn yn cael ei dreulio mewn ysgolion sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Addysg Abertawe ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe (PFA). Bydd y lleoliad addysgu, gan gynnwys y seminarau yn yr ysgol, yn cael eu trefnu a'u monitro gan Uwch Fentor yn yr ysgol. Bydd myfyrwyr yn cael cymorth oddi wrth diwtor o Ysgol Addysg Abertawe. Yn ystod y lleoliad hwn, bydd myfyrwyr yn cael eu harsylwi a'u hasesu ar draws yr ystod oedran cynradd cyfan.

Lleoliad Ysgol Asesedig 2

Bydd y bloc yma o brofiad yn cael ei gynnal yn ystod tymor yr Haf pan fydd myfyrwyr yn adeiladu ar ac yn datblygu sgiliau a gawsant yn eu lleoliad ysgol cyntaf. Hefyd, bydd y lleoliad addysgu hwn yn cynnwys seminarau yn yr ysgol a bydd myfyrwyr yn cael eu monitro gan Uwch Fentor yn yr ysgol. At hyn, bydd myfyrwyr yn cael cymorth oddi wrth diwtor o Ysgol Addysg Abertawe.

Trwy'r profiadau hyn yn yr ysgol dylai myfyrwyr:

  • gael gwybodaeth a phrofiad uniongyrchol o ddisgyblion a chanddynt ystod eang o alluoedd a diddordebau mewn amrywiaeth o ysgolion;
  • ymarfer rhoi trefn ar a rheoli dysgu disgyblion ar draws y cwricwlwm cynradd cyfan;
  • ennill profiad a dealltwriaeth o ysgolion fel sefydliadau gwaith.

Astudiaethau ar y Campws

Yn ogystal â pharatoi at a myfyrio ar brofiadau mewn ysgolion, nod yr astudiaethau hyn yw helpu myfyrwyr i ystyried eu profiadau mewn cyd-destun ehangach.

Astudiaethau Craidd ac Estynedig

Mae'r modiwlau astudiaethau cwricwlwm yn ymdrin ag agweddau ymarferol a damcaniaethol addysgu. Maent yn ffocysu ar strategaethau, sgiliau a thechnegau addysgu ac yn ystyried datblygiadau yn y gwahanol feysydd cwricwlwm. Mae'r modiwlau hyn yn cwmpasu pynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn ogystal â Meysydd Dysgu'r Cyfnod Sylfaen ac Addysg Grefyddol.

Mae cyrsiau TGCh yn rhedeg trwy gydol rhan y cwrs a addysgir ac, yn ogystal, mae TGCh pwnc-benodol wedi'i gynnwys yn y modiwlau astudiaethau cwricwlwm. Mae gan fyfyrwyr fynediad at adnoddau TGCh a Llyfrgell da.

Astudiaethau Addysgol a Phroffesiynol

Nod y rhaglen Astudiaethau Addysgol a Phroffesiynol yw archwilio meysydd allweddol gwybodaeth a sgiliau athrawon, yn drylwyr ac yn systematig, i sefydlu egwyddorion a disgwyliadau. Caiff y materion hyn eu harchwilio trwy ddarlithoedd, seminarau, arsylwadau strwythuredig yn yr ystafell dosbarth, tasgau addysgu yn y dosbarth a gweithdai ymarferol.

Yn y tymor cyntaf, mae'r ffocws ar baratoi myfyrwyr at eu profiad addysgu cychwynnol ac mae'n cynnwys sesiynau ar gynllunio gwersi, cyflwyno gwersi, trefnu dosbarth a rheoli dosbarth.

Yn yr ail dymor, mae sesiynau'n canolbwyntio ar bynciau ehangach, er enghraifft, trosglwyddiadau, datblygu cysylltiadau â rhieni ac ysgolion effeithiol.

Rhaid i fyfyrwyr ymchwilio ac ysgrifennu dau draethawd ar lefel gradd Meistri fel rhan o'r modiwlau Astudiaethau Addysgol a Phroffesiynol. Mae'r rhain yn cario 40 o gredydau lefel 7.

Yn ystod y tymor olaf, rhoddir pwyslais ar bynciau sy'n berthnasol i anghenion athrawon newydd fel ymsefydlu, datblygiad proffesiynol a fframwaith cyfreithiol a chyfundrefnol y system addysg.

D.S. Ymdrinnir â themâu fel y Ddarpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig a Chydraddoldeb yn y modiwlau astudiaethau cwricwlwm ac astudiaethau addysgol a phroffesiynol.

Arbenigedd Cwricwlwm

Bwriad yr opsiwn arbenigedd cwricwlwm yw helpu myfyrwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau mae arnynt eu hangen i gymryd rôl "cyfrifoldeb" mewn pwnc Cwricwlwm Cenedlaethol neu faes arall o gyfrifoldeb cwricwlaidd mewn ysgol gynradd yn CA1 a CA1. Felly, bydd angen gradd, neu lefel A gradd C neu gywerth ar fyfyrwyr yn y pynciau a gynigir.

Asesu

Mae gan ddulliau asesu myfyrwyr ar y cwrs TAR (Cynradd) ddwy gydran:

  • addysgu ymarferol lle caiff sgiliau addysgu a chymhwyster proffesiynol eu hystyried.
  • Gwaith cwrs lle caiff cyfres o aseiniadau ysgrifenedig eu hasesu

at hyn, mae yna:

  • Archwiliadau gwybodaeth pwnc mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.

I fod yn gymwys i ennill Tystysgrif i Raddedigion mewn Addysg, rhaid i gyfranogion y rhaglen fodloni'r arholwyr bod y DDWY gydran, addysgu ymarferol a gwaith cwrs, yn foddhaol. Bydd hyn yn arwain at argymhelliad i'r Adran dros Addysg a Sgiliau eich bod yn cael cydnabyddiaeth o Statws Athro Cymwysedig. Mae'r rhaglen hon yn cynnig 40 o gredydau Lefel Meistri.

Derbyniad

Caiff ceisiadau oddi wrth raddedigion anrhydedd da sy'n bodloni'r HOLL ofynion a ganlyn:

 

1. Rhaid i ymgeiswyr fod yn raddedigion Prifysgol, neu Goleg Addysg Uwch a gymeradwyir gan Brifysgol Cymru.

2.     Mae gradd pas (graddau A-B) mewn Cymraeg (graddau A-C) mewn Saesneg Iaith (graddau A-C) mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth Lefel "o" neu TGAU (neu gywerth) yn ofyniad angenrheidiol ar gyfer ymgeiswyr o bob oed. At hyn, rhaid meddu ar amrediad addas o TGAU i adlewyrchu'r Cwricwlwm Cynradd.

3. HEFYD, disgwylir i ymgeiswyr feddu ar naill ai lefel "A" gradd C (Bar gyfer Saesneg), neu gywerth neu radd mewn pwnc Cwricwlwm Cenedlaethol neu faes pwnc arall sy'n addas ar gyfer addysgu mewn ysgol gynradd er mwyn cynnig arbenigedd cwricwlwm. Ni allwn gynnig arbenigedd cwricwlwm ym mhob maes o'r cwricwlwm, a gall y rhain newid o flwyddyn i flwyddyn. Edrychwch ar wefan y GTTR (www.gttr.ac.uk ) am y ddarpariaeth gyfredol.

4. Bydd ymgeiswyr sydd wedi llwyddo i raddio o raglen radd BA (Anrh) Astudiaethau Addysgol PFA yn sicr o gael cyfweliad ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf a nodwyd.

5.     Ar hyn o bryd, mae meddu ar un o'r canlynol yn rhagofyniad lleiaf yn ogystal â'r pwyntiau a restrwyd

  • Saesneg - Lefel A Gradd C neu uwch (Iaith neu Lenyddiaeth) neu gywerth neu Radd

  • Mathemateg - Lefel A Gradd C neu Radd neu gydran fawr o Radd

  • Gwyddoniaeth - Lefel A Gradd C neu uwch neu gywerth neu Radd

  • Blynyddoedd Cynnar Uwch* - Lefel A Gradd C neu uwch neu gywerth neu Radd (ar gael yn unig i fyfyrwyr sy'n gwneud cais i'r cwrs Blynyddoedd Cynnar)

  • Cymraeg - fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg

  • Lefel A Gradd C neu uwch neu gywerth neu Radd

  • Technoleg Gwybodaeth - Lefel A neu gywerth mewn pwnc sy'n gysylltiedig â thechnoleg gwybodaeth neu gymhwyster o lefel uchel mewn sgiliau cyfrifiadurol (e.e. RSA, GNVQ) neu brofiad galwedigaethol mewn maes sy'n cynnwys defnydd rheolaidd o TGCh

  • Hanes - Lefel A Gradd C neu uwch neu gywerth neu Radd

  • Daearyddiaeth - Lefel A Gradd C neu uwch neu gywerth neu Radd

  • Ieithoedd Tramor Modern - Lefel A Gradd C neu uwch mewn Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg neu Almaeneg neu gywerth neu Radd

  • Addysg Gorfforol - Lefel A Gradd C neu uwch neu gywerth neu Radd

  • Anghenion Addysgol Arbennig - Lefel A Gradd C neu uwch neu gywerth neu Radd

* ar gael yn unig i fyfyrwyr sy'n gwneud cais i'r cwrs Blynyddoedd Cynnar

Mae'n arferol i bob ymgeisydd gael cyfweliad cyn cael eu derbyn..

Disgwylir i ymgeiswyr fod wedi cael profiad diweddar mewn ysgolion cynradd cyn mynychu'r cyfweliad.

Os bydd gennych ymholiadau ynghylch cymhwyster, cysylltwch â:

Derbyniadau TAR ar 01792 481094 neu e-bost: This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

Sut i wneud cais

Bydd myfyrwyr a dderbynnir ar y rhaglen TAR yn cael eu dewis ar sail eu ffurflen gais, geirdaon a chyfweliad.

Cewch y ffurflenni cais oddi wrth y:

Cofrestrfa Hyfforddiant Athrawon i Raddedigion (GTTR)

Anogir ymgeiswyr i wneud cais yn www.gttr.ac.uk
Dyma'r fan i bawb sy'n gwneud cais am raglenni TAR. Dylid anfon y ffurflen gais wedi'i llenwi trwyddyn nhw, ynghyd â'r ffi berthnasol. NI ELLIR gwneud ceisiadau'n uniongyrchol i sefydliadau.
Argymhellir eich bod yn gwneud cais yn gynnar, gan fod lleoedd yn cael eu llenwi'n gyflym,. Ewch i wefan GTTR am fanylion dyddiadau cau ac argaeledd.


Benthyciadau myfyrwyr a Ffioedd Dysgu

Pan gyhoeddwyd y prosbectws hwn, mae myfyrwyr ar bob rhaglen TAR yng Nghymru'n gymwys i gael pecynnau cymhelliant ariannol sy'n cynnwys grant hyfforddi, nad yw'n seiliedig ar brawf modd, nid oes rhaid ei ad-dalu na thalu treth arno. Mae'r swm yn debygol o amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn amodol ar sut mae'r galw am a chyflenwad myfyrwyr sy'n gwneud cais i'r cwrs TAR Cynradd yn amrywio. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion


Amddiffyn Plant

Mae deddfwriaeth lywodraethol ar waith i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn. Mae gan hyn oblygiadau i unrhyw un sy'n dymuno myned i'r proffesiwn addysgu ac sydd wedi eu cael yn euog o drosedd. Cyhoeddir manylion llawn yn llawlyfr GTTR a fydd yn cael ei anfon atoch yn awtomatig pan fyddwch yn gwneud ymholiad ynglŷn â gwneud cais. Os nad ydych wedi'ch cael yn euog o drosedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau yn llawlyfr GTTR cyn i chi gyflwyno'ch cais.

Yn eich cyfweliad, byddwn yn gofyn i chi am unrhyw droseddau a bydd gofyn i chi lofnodi ffurflen am hyn cyn y byddwn yn cynnig lle i chi ar y cwrs. Bydd y ffurflen hunan-ddatgan hon yn cael ei hystyried yn fesur dros-dro. Bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn darparu gwybodaeth y byddwn yn ei defnyddio i wneud asesiad terfynol ar eich addasrwydd i addysgu, a fydd yn cael ei wneud ar sail datgeliad gan y SCT.