| PGCE Secondary Subjects - Cymraeg |
|
|
|
YDYCH CHI'N CHWILIO AM YRFA SYDDYn defnyddio'r Gymraeg ac yn hybu Cymreictod? Yn cynnig sialens a gwobr wrth weithio gyda phobl ifanc?
BETH AM ADDYSGU?
Dewch i Abertawe i hyfforddi fel athro/athrawes uwchradd y Gymraeg (iaith gyntaf neu ail iaith) PA GYMWYSTERAU SYDD EU HANGEN?Mae angen gradd prifysgol (B.A. fel arfer) yn y Gymraeg yn ogystal â, T.G.A.U mewn Cymraeg/Saesneg a Mathemateg. Mae gradd mewn pwnc heblaw'r Gymraeg hefyd yn dderbyniol os yw'r Gymraeg yn iaith gyntaf i chi ac os oes cymhwysterau da yn y Gymraeg gennych (fel arfer Safon Uwch yn y pwnc).BETH YW NATUR YR HYFFORDDIANT?Bydd y cwrs yn eich hyfforddi i addysgu Cymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith i ddisgyblion o bob oed a gallu o 11 i 18.
PA FATH O GWRS A GYNIGIR?
Treulir dwy ran o dair o'r flwyddyn mewn dwy ysgol wahanol lle byddwch yn cael profiad ymarferol o addysgu. Bydd darlithoedd a seminarau yn y brifysgol yn rhoi'r egwyddorion, y syniadau ymarferol a'r gefnogaeth broffesiynol i chi ar gyfer addysgu. Mae'r pwyslais ar ryngweithio, myfyrio'n feirniadol, dychymyg a gwaith caled!
Ffioedd Dysgu 2012/2013
Rhaglenni TAR - £9,000 Ni fydd rhaid i fyfyrwyr dalu ymlaen llaw am eu hyfforddiant. Bydd ffioedd dysgu’n cael eu talu gyda benthyciad y bydd myfyrwyr ond yn dechrau eu had-dalu wedi iddynt adael eu cwrs a chychwyn ennill dros £21,000 y flwyddyn.Bydd gan fyfyrwyr o Gymru a rhai y tu allan i’r DU sy’n byw yn yr UE hawl i grant am ddim i dalu am ffioedd dros £3,465. Nid yw’r grant hwn yn seiliedig ar brawf modd ac nid oes rhaid ei ad-dalu.Am ragor o fanylion, ewch i www.tda.ac.uk , www.studentfinancewales.co.uk neu www.direct.gov.uk/studentfinanceGrantiau Hyfforddi TAR 2012/13Mae grantiau cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr newydd cymwys ar gyrsiau TAR Cynradd ac Uwchradd fel a ganlyn:
CYSYLLTWCH ÂTiwtor y Gymraeg: Jane Nicholas |






