| Safle'r Brifysgol |
|
|
|
|
Nid yw'r Brifysgol yn ymddangos yn unrhyw dablau cynghrair trefniedig papur newydd neu eraill a gyhoeddwyd cyn Awst 2008. Mae'r Brifysgol yn credu mai'r Llywodraeth a'i hasiantaethau swyddogol ddylai fod yn aseswyr ffurfiol addysg uwch yn y DU. Asesir ansawdd addysgu pob Prifysgol yn y DU gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA). Derbyniodd y Brifysgol adroddiad rhagorol yn dilyn ei hasesiad diweddaraf yn 2007. Mewn ymarfer a barodd blwyddyn er mwyn ceisio cael pwerau dyfarnu graddau a addysgir (TDAPs), bu arolygwyr y QAA yn archwilio ansawdd a safonau'r Brifysgol yn fanwl. Barnodd fod y Brifysgol wedi bodloni'r holl feini prawf angenrheidiol ar gyfer derbyn pwerau dyfarnu graddau a addysgir ac fe argymhellodd gymeradwyaeth gan y Cyfrin Gyngor a ddyfarnwyd ar Ionawr 14 2008. Ar Ionawr 15 2008, cymeradwyodd y Cyfrin Gyngor newid teitl y Brifysgol i Brifysgol Fetropolitan Abertawe o ganlyniad i ennill TDAPs. Mae'r Brifysgol yn credu y dylai'r sector addysg uwch gael ei asesu trwy ddulliau ffurfiol llywodraethol yn hytrach na thrwy dablau cynghrair gan sefydliadau a phapurau newydd sy'n defnyddio amrywiol setiau o feini prawf sydd yn answyddogol ac o bosib yn annibynadwy.
|







