Prifysgol Fetropolitan Abertawe - Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Y dudalen gyfatebol yn Saesneg. English Version of this Page.
CYNLLUN CYHOEDDI
Ionawr 2009 (Yn Cael ei Lunio)
CYFLWYNIAD
Gofyniad cyfreithiol
1.1 Mae mabwysiadu cynllun cyhoeddi yn ofynnol dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae'r Ddeddf yn hybu mwy o onestrwydd ac atebolrwydd ar draws y sector cyhoeddus trwy orfodi'r holl ‘awdurdodau cyhoeddus' i drefnu'n weithredol bod gwybodaeth ar gael, trwy gynllun cyhoeddi.
1.2 Ceir diffiniad o ‘awdurdodau cyhoeddus' yn y Ddeddf ac mae'n cynnwys prifysgolion, colegau addysg bellach a cholegau chweched dosbarth.
2. Beth yw cynllun cyhoeddi?
2.1 Dogfen yw cynllun cyhoeddi sy'n disgrifio'r wybodaeth y mae awdurdod cyhoeddus yn ei chyhoeddi, neu'n bwriadu ei chyhoeddi. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘cyhoeddi' yn golygu trefnu bod gwybodaeth ar gael, yn rheolaidd. Gelwir y disgrifiadau hyn yn ‘ddosbarthiadau o wybodaeth'. Nid rhestr o'r cyhoeddiadau eu hunain yw'r cynllun, oherwydd bydd hon yn newid wrth i ddeunydd newydd gael ei gyhoeddi neu wrth i ddeunydd sy'n bodoli gael ei ddiwygio. Yn hytrach, mae'n dangos ymrwymiad yr awdurdod cyhoeddus i drefnu bod y wybodaeth a ddisgrifir ar gael.
2.2 Mae'n rhaid i gynllun cyhoeddi nodi'r dosbarthiadau, neu'r categorïau, o wybodaeth a gyhoeddir. Rhaid iddo egluro hefyd sut gellir cyrchu'r wybodaeth a ddisgrifir ac a oes yn rhaid talu amdani ai peidio.
3. Y cynllun cyhoeddi 'model' ar gyfer addysg uwch
3.1 Mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe wedi datblygu'r cynllun cyhoeddi model a baratowyd ar gyfer y sector Addysg Uwch ac mae'n ymrwymo i gyhoeddi'r wybodaeth a ddisgrifir ynddo.
Cynlluniwyd y model hwn ar gyfer prifysgolion ar draws Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon. Pwrpas y model yw arbed sefydliadau rhag dyblygu eu hymdrechion trwy gynhyrchu cynlluniau unigol, a chynorthwyo'r cyhoedd i gyrchu gwybodaeth o bob rhan o'r sector. Fodd bynnag, er mwyn adlewyrchu'r amrywiaeth mewn maint a swyddogaeth y gwahanol sefydliadau, cynhwysir nifer o ddosbarthiadau dewisol o wybodaeth. O ganlyniad, bydd y modelau o fewn y sector yn amrywio rhyw ychydig. Mae unrhyw ddosbarthiadau dewisol sy'n berthnasol i ni yn gynwysedig yn ein cynllun.
3.3 I gynorthwyo gyda datblygiad y model, mae nifer o sefydliadau ar draws y sector wedi gwirfoddoli i fod yn beilotiaid. Mae gwybodaeth ynghylch yr ymarfer peilot ar gael ar wefan y Cyd Bwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC) : www.jisc.ac/index.cfm?name=mps overview
4. Pwy ydym ni
Mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn un o'r prifysgolion diweddaraf yn y Deyrnas Unedig gan iddi dderbyn ei statws Prifysgol yn 2008. Ei henw gynt oedd Athrofa Addysg Uwch Abertawe, ac mae wedi bod yn ganolfan blaenllaw am ddarparu addysg uwch alwedigaethol ers dros gant a hanner o flynyddoedd. Mae'n aelod cyflawn o Brifysgol Cymru ac yn Sefydliad Trwyddedig Edexcel.
Mae gwreiddiau'r Brifysgol yn gadarn yn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu, ac mae ganddi gysylltiadau agos â diwydiant lleol, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, a sefydliadau addysgol eraill. Mae'r cwricwlwm cyfredol yn cwmpasu ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Yn sail i'r holl gyrsiau a gynigir yn y Cyfadrannau Celf a Dylunio, Dylunio Cymhwysol a Pheirianneg a'r Dyniaethau, mae cymhwyso gwybodaeth at sefyllfaoedd bywyd go iawn, boed mewn labordy, gweithdy neu ystafell ddosbarth.
Mae safonau'r Brifysgol yn cael eu rheoli'n ofalus a'u monitro'n rheolaidd gan arbenigwyr allanol, yn ogystal â rhai mewnol. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i gynnwys ansawdd ym mhopeth a wna. Mae hyn yn arbennig o briodol yn ein rhaglenni academaidd. Mae pob rhaglen yn cael ei harchwilio'n drwyadl cyn y caiff gychwyn, er mwyn sicrhau ei bod yn bodloni safonau academaidd llym a'i bod yn berthnasol i fyd gwaith. Mae'n rhaid i'r holl gyrsiau a ddarperir gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe ‘gael eu dilysu', hynny yw, cael eu cymeradwyo gan Brifysgol Cymru, Y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg (BTEC) neu'r awdurdod rheoli priodol. Mae pob rhaglen a pholisi yn cael eu monitro'n flynyddol a'u hadolygu'n drwyadl yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau'n berthnasol ac ac yn cael eu diweddaru'n rheolaidd er mwyn cwrdd â gofynion ein hamgylchedd sy'n newid mor gyflym.
5. Cyrchu gwybodaeth a gwmpasir gan y cynllun cyhoeddi
5.1 Disgrifir y dosbarthiadau o wybodaeth a gyhoeddwn yn ail ran y cynllun.
a ddarperir ar ffurf llungopi neu a gaiff ei phrintio o ddogfennau a gedwir yn electronig. Os nodir bod gwybodaeth ar gael trwy wefan y Brifysgol gellir ei darparu fel copi caled hefyd. Mae'r frawddeg 'i'w gweld' yn nodi gwybodaeth y gellir edrych arni trwy wneud apwyntiad gyda'r Swyddfa Cofnodion ac Archifau.
5.3 Mae'r taliadau am gael gwybodaeth a gwmpasir gan y cynllun cyhoeddi fel a ganlyn:
(a) Gellir cyrchu'r holl wybodaeth sydd ar gael ar wefan y Brifysgol yn rhad ac am ddim.
(b) Darperir yr holl gyhoeddiadau yn rhad ac am ddim.
(c) Os nodir bod gwybodaeth ar gael fel 'copi caled', codir isafswm o £5.00 am bob cais. Os yw'r cais am fwy na 50 tudalen A4, codir tâl atodol o £0.10 am bob dalen ychwanegol.
(ch) Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gyflenwi gwybodaeth mewn fformatau eraill, os gofynnir amdanynt, a byddwn yn codi tâl sy'n gyfwerth â'r pris cynhyrchu.
(d) Mae'r cynllun cyhoeddi model yn disgrifio'r dosbarthiadau o wybodaeth mewn ffordd a fydd yn gadael allan gwybodaeth y gellid ei chwmpasu gan Esemptiad. Fodd bynnag, gallai rhai o'r dosbarthiadau yn ein cynllun ddal i gynnwys gwybodaeth sydd wedi ei hesemptio dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Gallai hyn fod yn ddata personol, gwybodaeth o fudd masnachol i'r Brifysgol, gwybodaeth yn ymwneud ag atal neu ganfod trosedd, neu wybodaeth esempt arall. Byddwn bob amser yn cadarnhau a yw gwybodaeth wedi ei golygu ai peidio wrth ei chyflenwi.
(dd) Mae'r cynllun cyhoeddi'n berthnasol i'r fersiwn wybodaeth gyfredol yn unig ac i'r wybodaeth sydd yn ymwneud â'r flwyddyn academaidd gyfredol. Mae'r holl wybodaeth yn y cynllun ar gael yn Saesneg ac mae'r wybodaeth a nodir gyda * (yn y golofn 'dull') ar gael yn Gymraeg hefyd, naill ai fel cyhoeddiad dwyieithog neu fel dogfen ar wahân.
5.4 Os hoffech ofyn am wybodaeth sydd ar gael drwy ein Cynllun Cyhoeddi, cysylltwch â:
Y Swyddfa Cofnodion ac Archifau
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Campws Mount Pleasant
Mount Pleasant
Abertawe
SA1 6E
e-bost:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Byddwch cystal â nodi bod cynllun cyhoeddi yn cyfeirio at wybodaeth ‘cyhoeddedig'. Felly, mae'r deunydd a gwmpasir wedi cael ei baratoi eisoes mewn fformat sydd yn barod i'w ddosbarthu.
6. Beth am wybodaeth na chwmpasir gan y cynllun cyhoeddi?
6.1 O Ionawr 2005 ymlaen mae hawl gennych, dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, i ofyn am unrhyw wybodaeth sydd ym meddiant awdurdod cyhoeddus nad yw ar gael eisoes trwy ei gynllun cyhoeddi.
6.2 Rhaid gwneud ceisiadau mewn ysgrifen ac, yn gyffredinol, mae gan awdurdodau cyhoeddus 20 diwrnod y i ateb. Efallai byddant yn codi ffi, a bydd yn rhaid cyfrifo hon yn unol â'r Rheoliadau Ffioedd. Nid yw'n ofynnol iddynt ryddhau gwybodaeth os oes esemptiad cyfreithlon ar gael drwy'r Ddeddf. Fodd bynnag, gellid gofyn i awdurdodau cyhoeddus esbonio i'r ymgeisydd pam nad ydynt yn rhyddhau gwybodaeth ac efallai bydd yn rhaid iddynt gyfiawnhau hyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd.
7. Adborth
7.1 Mae'n bwysig bod y cynllun cyhoeddi hwn yn bodloni eich anghenion. Os cewch fod y cynllun yn anodd ei ddeall, rhowch wybod i ni. Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella ein cynllun. Dylid anfon unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion ynghylch y cynllun hwn mewn ysgrifen at Gydlynydd y Cynllun Cyhoeddi isod.
Cofrestrydd Academaidd a Swyddog DDD/Rhyddid Gwybodaeth
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Campws Mount Pleasant
Mount Pleasant
Abertawe
SA1 6ED
7.2 Os na allwn ddatrys unrhyw gŵyn, gallwch gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol sy'n goruchwylio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth:
Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaerlleon
SK9 5AF
8. Am ragor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth at:
www.informationcommissioner.gov.uk
Noder fod gan yr Alban ei Deddf Rhyddid Gwybodaeth a'i Chomisiynydd Gwybodaeth ei hun. Am ragor o wybodaeth, gweler Gweithgor yr Alban: www.scotland.gov.uk/government/foi
GRWPIAU a DOSBARTHIADAU O WYBODAETH (ar gyfer cynllun cymeradwy Chwefror 2004 - cynllun newydd 2009 yn cael ei lunio ar hyn o bryd)
-
Dosbarth 1 - Trefn Lywodraethol
-
Dosbarth 2 - Adnoddau Ariannol
-
Dosbarth 3 - Adnoddau Dynol
-
Dosbarth 4 - Adnoddau Corfforol
-
Dosbarth 5 - Gweinyddiaeth a Chefnogaeth Myfyrwyr
-
Dosbarth 6 - Gwasanaethau Gwybodaeth
-
Dosbarth 7 - Dysgu ac Addysgu
-
Dosbarth 8 - Ymchwil a Datblygu
-
Dosbarth 9 - Cysylltiadau Allanol
|