| Astudio'n Rhan-Amser |
|
|
|
Cael y Sylw y mae arnoch CHI ei angen am Oes o Lwyddiant - Anelu'n Uwch Trwy Astudio'n Rhan-Amser ym Met AbertaweYdych chi'n ystyried symud eich gyrfa ymlaen, newid eich swydd neu ddilyn yr hyn rydych chi'n ei garu? Beth bynnag fo'ch rheswm, gall astudio cwrs rhan-amser datgloi eich potensial gan roi ymdeimlad enfawr o gyrhaeddiad personol ac unigol i chi. Pam na wnewch chi ymweld ag un o'n nosweithiau gwybodaeth i ddysgu rhagor (gweler isod) Mae Met Abertawe yn cynnig graddau uwch trwy ymchwil, ystod eang o raglenni proffesiynol a addysgir a nifer o gymwysterau proffesiynol poblogaidd. Mae pob un wedi'i ddylunio gyda byd gwaith mewn meddwl. Os hoffech astudio tuag at radd israddedig neu HND/C ond ni allwch ymrwymo i astudio'n amser llawn, efallai mai astudio'n rhan amser yw'r ffordd ymlaen at lwyddiant i chi. Am restr o gyrsiau, gweler y ddolen gyferbyn. Gallwch astudio o gwmpas eich ymrwymiadau presennol, ar gyflymdra sy'n eich gweddu chi, gan ennill credydau'n raddol, a fydd yn cyfrif tuag at eich cymhwyster terfynol. Gall astudio tuag at gymhwyster israddedig gymryd rhwng dwy a chwe blynedd, yn amodol ar faint o amser sydd gennych chi i'w roi i'r cwrs. Rhagolygon Gwaith a Gyrfa RhagorolYn ôl y ffigyrau diweddaraf (2010/11) a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), roedd 97.3% o fyfyrwyr rhan amser a gafodd radd israddedig gyda ni mewn gwaith neu hyfforddiant o fewn chwe mis iddynt raddio (yn erbyn targed llywodraethol o 93.3%). Astudiwch eleni i osgoi codiad mewn ffïoedd yn 2013/14Mae Llywodraeth Cymru'n debygol o gyflwyno newidiadau i'r ffordd yr ariennir cyrsiau rhan-amser yn 2013/14. Efallai y bydd gan y trefniadau ffioedd newydd hyn pblygiadau difrifol ar lefel y ffioedd a godir ac efallai y byddai'n syniad i chi ystyried dod ag unrhyw fwriad sydd gennych i astudio'n rhan-amser ymlaen i'r flwyddyn hon er mwyn osgoi unrhyw godiad mewn ffioedd yn 2013/14. Ar y brig ar gyfer boddhad myfyrwyrMae'r profiad myfyriwr rhan-amser ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ymhlith y gorau yng Nghymru gyda lefelau boddhad myfyrwyr yn uwch na hanner holl brifysgolion Cymru yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf. Yn 2011, roedd boddhad myfyrwyr rhan-amser Met Abetrawe yn 88% sy'n sylweddol uwch na tharged y llywodraeth, sef 83%. Sut allaf i wneud cais?Defnyddiwch y ffurflen sydd ar ddiwedd y daflen rhan amser neu gwnewch gais ar-lein. Mae rhagor o fanylion ar gael gan y Gofrestrfa. Gallwch wneud cais unrhyw bryd rhwng nawr a chychwyn y cwrs, ond rydym yn eich cynghori i gyflwyno'ch cais cyn gynted â phosibl. Beth os oes gen i gwestiynau?Mae'n debyg y bydd staff y Gofrestrfa'n gallu ateb y rhan fwyaf o'ch cwestiynau neu gallwch ymweld ag un o'n nosweithiau gwybodaeth (gweler isod am fanylion). Gallwch gysylltu â'r Gofrestrfa yn ystod oriau swyddfa arferol ar 01792 481010. Nosweithiau Gwybodaeth Rhan-AmserMae ein nosweithiau gwybodaeth yn ffordd ardderchog o gael cyngor ar yr ystod eang o raglenni astudio a chymhellion ariannol sydd ar gael. Bydd staff ar gael i ateb unrhyw gwestiynau allai fod gennych, felly galwch heibio unrhyw bryd rhwng 5.00pm a 6.30pm ar unrhyw un o'r dyddiadau a ganlyn: Dydd Iau 9 Mai 2013 Dydd Iau 6 Mehefin 2013 Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2013 Cynhelir ein Nosweithiau Gwybodaeth yn Ysgol Fusnes Abertawe, Powell Street, Abertawe, SA1 1NE (drws nesaf i Orsaf Drenau Abertawe). Nid oes rhaid cadw lle ymlaen llaw. Cofrestru Rhan-amser 2013I'w Gadarnhau (1.00pm - 6.30pm) I'w Gadarnhau (1.00pm - 6.30pm) Campws Mount Pleasant, Abertawe |







